![]() Dysgu'r Delyn Sipsi Werin |
Yr Eglwys Newydd 11/7/2015 10.30 - 16.30 |
![]() Learning the Welsh Gypsy Harp |
Dosbarth diwrnod llawn i ddysgu telyn y sipsiwn Cymreig. Gosod o 10yb. De-ddwyrain Cymru Sadwrn Gorffennaf 11 Earl Haig Club. Penlline Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AA |
Robin Huw Bowen![]() |
A full-day class to learn the Welsh gypsy style
of harp playing. Set up from 10am South-east Wales Saturday July 11 Earl Haig Memorial Club, Penlline Road Whitchurch, Cardiff CF14 2AA |
£20 i gymryd rhan yn y gweithdy (£15 gostyngiadau). 20% yn llai i aelodau Clera Yn addas ar gyfer Gradd 3 ac uwch. |
Ymholidau / Enquiries Shelley Fairplay : info@harpwales.com cyffredinol / general : telynorcymru@sesiwn.com 029 20628300 |
£20 to take part in
the workshop (£15 concessions). 20% discount for Clera members. Suitable for Grade 3 and above. |
Bydd
y gweithdai yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a gwella
eich ffordd o ganu’r Delyn mewn awyrgylch hwyliog ac
anffurfiol. |
The class will
be an entertaining and informal chance to pick up some new
skills and improve your harp playing. |
|
Lleoliad Mae wyneb blaen Clwb yr Earl Haig ar Penlline Road yn yr Eglwys Newydd gyferbyn â mynediad yr Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. mae'r stryd yn gyfochrog i'r A470 ar ei fffordd i mewn i'r ddinas o'r Gogledd. Cynhelir y dosbath yn estyniad o'r 1970au yr ochr gefn i'r Clwb. Byddwn yn defnyddio'r ystafell fawr achlysuron, gyda mynediad gwastad o'r maes parcio. Mae lle parcio ar gyfer pob gyrfanogwr ar faes parcio preifat y Clwb sydd wedi'i wahanu o'r maes parcio cyhoeddus. Cludiant Ar y trên: Gorsaf ystum Taf sydd ar y rheilffordd i cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf ac mae'r Clwb rhyw 600 llath i''r dwyrain o'r orsaf. Ar y bws: mae byses Caerdydd rhif 23, 24 amd 25 yn rhedeg o ganol y ddinas i'r Eglwys Newydd ac mae rhai o fysiau'r cymoedd yn mynd trwyddi. Gyda char: dilynwch yr arwyddion i'r Eglwys Newydd. O'r gogledd ar yr A470 neu'r M4, ewch o amgylch cylchfan Coryton (cyff. 32), neu trowch i'r dde wrth y goleuadau traffig ar ôl pasio o dan yr M4 yng ngyfeiriad Caerdydd ac ewch y ffordd dros y bont reilffordd; ewch drwy'r gylchfan i Penlline Road a throwch i'r chwith ar gyfer y maes parcio cyhoeddus yn syth ar ôl y groesfan cerddwyr o flaen mynediad Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. O'r de, ewch drwy'r goleuadau traffig yng nghanol y Eglwys Newydd a throwch i'r dde ar gyfer y maes parcio yn syth ar ôl y bwyty India Gate. Mae'r fynedfa i faes parcio Earl Haig ar y chwith wrth i chi gyrraedd y maes parcio cyhoeddus, cyn y toiled cyhoeddus 'Tardis'. Mae drws yn agor o'r ystafell achlysuron ar y maes parcio, yn cynnig mynediad gwastad i gludo eich telyn. Bwyd a diod Mae coffi a bisgedi yn cael eu darparu gan y Clwb ond ni fydd prydau bwyd yn cael eu darparu. Mae llawer o siopau a chaffis yn y pentref neu gallwch ddod â'ch bwyd eich hun, ac mae prif bar y clwb ar agor yn ystod y dydd.. |
![]() ![]() ![]() ![]() |
Location The front face of the Earl Haig Club is on Penlline Road, Whitchurch in North Cardiff, opposite the entrance to Whitchurch High School. The road runs to the West of and parallel to the A470 which runs in to Cardiff from the North. The class will be held in the large function room of the 1970's extension which is at the rear, with direct and level access convenient for harp transfer from the Club's own toll-free car park which adjoins the north public car park for Whichurch Village. Transport Travelling by train: the nearest station is Llandaff North on the Rhondda, Cynon and Taff Valley Lines. the Earl Haig Club is about 600 yards East of the station. Travelling by bus: Cardiff buses 23, 24 and 25 go from the city centre to Whitchurch and some valley bus routes pass through the village, Travelling by car: follow signs for Whitchurch. From the north (A470 or M4), go around the Coryton (J32) roundabout or turn right at the traffic lights after passing under the M4 in the Cardiff direction and follow the road over the railway bridge, go through the roundabout into Penlline Road; turn left immediately after the pedestrian crossing by Whitchurch High School for the public car park. From the south, go through the traffic lights in the middle of the Whitchurch and turn right for the signposted car park immediately after the India Gate restaurant. The entrance to the Earl Haig car park is on the left just before the public car park and 'Tardis' public toilet. A door opens from the function room onto the car park, providing level access for transporting your harp. Food and drink Coffee and biscuits will be provided by the Club but meals are not provided. There are lots of shops and cafés in the village or you can bring your own food, and the main Club bar is open during the day. |
DIGWYDDIADAU NESAF | NEXT EVENTS | |
Dosbarth De-ddwyrain Cymru - Telynor Cymru Clwb Coffa Earl Haig, 23-25 Penlline Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AA |
Sad / Sat 11/7/15 10.30-16.30 |
Telynor Cymru - South-east Wales Class Earl Haig Memorial Club, 23-25 Penlline Road Whitchurch, Cardiff CF14 2AA |
Gweithdy Caernarfon -Telynor Cymru Y Galeri Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ |
Sun / Sul 19/7/15 10.30-16.30 |
Telynor Cymru - Caernarfon Workshop Y Galeri Victoria Dock, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ |
Gweithdy Llŷn -Telynor Cymru Yr Hen Ysgol, Llangwnnadl Llangwnnadl ger Pwllheli, Gwynedd LL53 8NN |
Sad / Sat 25/7/15 10.30-16.30 |
Telynor Cymru - Llŷn Workshop Llangwnadl Old School Llangwnadl, near Pwllheli, Gwynedd LL53 8NN |
Gweithdy Pentre-cwrt -Telynor Cymru Neuadd y Pentref, Pentre-cwrt Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5BD |
Sun / Sul 26/7/15 10.30-16.30 |
Telynor Cymru - Pentre-cwrt Workshop Pentre-cwrt Village Hall, Pentre-cwrt, Llandysul, Carmarthenshire SA44 5BD |
Cliciwch yma am fanylion y cynllun Cliciwch yma am ffurflen gofrestru Ymholiadau at telynorcymru@sesiwn.com |
![]() |
Click here for your invitation to join the project Click here for a workshop registration form Enquiries to telynorcymru@sesiwn.com |
Mae Telynor Cymru 2016 yn dathlu 200 mlwyddiant geni John Roberts 'Telynor Cymru' (1816-1894), un o'r ffigurau pwysicaf yn ein traddodiad gwerin. John Roberts Sipsi Cymreig oedd John ac roedd yn enwog yn y 19eg ganrif am chwarae'r Delyn Deires Gymreig. Telyn Werin Cymru Y delyn yw'r unig agwedd ddi-dor o'n traddodiad offerynnol gwerin, ac eto, hi yw'r offeryn lleiaf amlwg ar sîn werin Cymru heddiw. Mae'r byd telyn Gymreig yn ffafrio'r drefn glasurol ryngwladol yn lle. Teimla Clera yn gryf bod rhaid gywirio'r sefyllfa |
![]() |
Telynor Cymru 2016 celebrates the 200th anniversary of the birth of John Roberts (1816-1894), 'Telynor Cymru', one of the most important figures in our folk tradition. John Roberts John was a Welsh Gypsy who was famous in the 19th century for playing the Welsh Triple Harp. The Welsh Folk Harp The harp is the only aspect of our continuous instrumental folk tradition, and yet it is the least prominent instrument on the Welsh folk scene today. The Welsh harp world favours the international classical regime instead, and Clera feels strongly that we must correct this. |
Trysor y Sipsiwn Trosglwyddwyd trysor cerddoriaeth delyn y Sipsiwn Cymreig drwy chwe chenhedlaeth o deulu John Roberts i'w or-wyres Eldra Jarman, a thrwyddi hi i Robin Huw Bowen.. |
The Gypsies' treasure The treasure of the Harp music was passed down through six generations of the Roberts family from John to his great-grand-daughter Eldra Jarman, and through her to Robin Huw Bowen. |
|
Robin Huw Bowen Pan fu'n ymweld â gwlad Paraguay yn 2013 i chwarae yn Festival Mundial del Arpa en el Paraguay, gwelodd Robin wlad lle mae traddodiad werin ei Hofferyn Genedlaethol yn fywiog iawn. Yng Nghymru, y delyn yw'r unig agwedd ddi-dor o'n traddodiad offerynnol gwerin, ac eto, hi yw'r offeryn lleiaf amlwg ar sîn werin Cymru heddiw; anelwn at gywiro hyn drwy'r prosiect. |
![]() |
Robin Huw Bowen When he visited Paraguay in 2013 to play in the Festival Mundial del Arpa en el Paraguay, he saw a country where the folk tradition of its National Instrument was very lively. In Wales, only the harp can claim to have an unbroken instrumental folk tradition, yet it is the least prominent instrument on the Welsh folk scene today; we aim to rectify this through this project. |
Cyngor Celfyddydau Cymru Buom yn llwyddiannus yn ein cais am gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac dyma gychwyn ar y gwaith. Mae'r grant wedi galluogi i ni drefni safle we ar gyfer yr ymgyrch: www.telynor.cymru a bydd newyddion amdano ar www.clera.org a www.sesiwn.com |
![]() ![]() ![]() |
The Arts Council of Wales We were successful in our application for financial support from the Arts Council of Wales and we are now starting on the work. This funding has enabled us to develop a Web site specifically for the project: www.telynor.cymru and news the development will be posted on www.clera.org and www.sesiwn.com. |
Pam mae angen y prosiect? Gwnaeth ymweliad Womex â Chaerdydd y llynedd les mawr i godi proffeil canu traddodiadol ac i newid agwedd y sector i werthfawrogi potensial ein traddodiad i gyffroi pobl lawn gymaint ag adrannau eraill y celfyddydau. Mae diffyg hyder ac anwybodaeth yn rhy aml yn amlygu eu hunain ar y sîn Gymreig, ac yn peri i ormod o berfformwyr gredu 'nad iddyn nhw' y mae'r pethau hyn, am ba reswm bynnag. Mae 'na amharodrwydd yn y byd clasurol i dderbyn repertoire ac arddull werin o ddifrif, ac mae'r telynorion gwerin yn aml gydag agwedd rhy amaturaidd ac yn ofni'r her o chwarae repertoire mwy soffistigedig. Ymgais felly yw'r prosiect yma i geisio datblygu hyder yn y repertoire ac yn y gallu i'w berfformio, ac yna, broffesiynoldeb wrth ei gyflwyno, yn union fel y gwelwyd traddodiadau eraill yn gwneud yn ystod Womex. |
![]() |
Why do we need the project? The visit of Womex to Cardiff in 2013 brought great benefit in raising the profile of traditional music and changing attitudes towards the sector, recognising the potential that our tradition has to excite people as much as other departments of the arts. Lack of confidence and ignorance are too often associated with the Welsh scene, and lead too many performers to believe 'that these things are not for them', for whatever reason. There's a reluctance in the classical world to take the folk style and repertoire seriously, and the folk harpists too often have an amateurish attitude and fear the challenge of playing a more sophisticated repertoire. So this project is an attempt to try to build confidence in the repertoire and the ability to perform, resulting in professionalism in presenting it, just as seen in other traditions do during Womex. |
Ein Cynllun
Ein cynllun yw i roi gwersi dros Gymru i chwarae ym modd y Sipsi yn ystod 2015, dan arweiniad Robin, gyda'r nod o berfformio cyngherddau'n genedlaethol ar draws Gymru yn 2016 i ddathlu dauganmlwyddiant John Roberts. Bydd grwpiau telynorion ar draws Gymru yn dysgu dull chwarae'r Sipsi, drwy'r glust, i ganu'n halawon traddodiadol ar y delyn. Bydd ein gwefan yn cyflwyno gwybodaeth diweddar am y prosiect a bydd adran wedi'i neulltio dim ond ar gyfer disgyblion y prosiect i gefnogi ac i ategu'r gwersi lleol. Bydd nodiant alawon hefyd ar gael, cyngor a gwybodaeth perthnasol i'r disgyblion. |
Our Plan Our plan is to give lessons across Wales during 2015, under Robin's leadership, to play the Gypsy way with the aim of performing concerts nationally across Wales in 2016 to celebrate the bicentenary of John Roberts. Harp groups across Wales will learn to play traditional melodies on the harp by ear, the Gypsy learning method. Our website will present the latest information about the project with a section to support and supplement the local lessons reserved for pupils of the project. Notation for tunes will also be available, as well as relevant information and advice to pupils. |
|
Y gwaith hyd yn hyn Mae Robin wedi recordio fideos hyfforddi ar gyfer wefan www.telynor.cymru . Rydym eisoes wedi rhedeg dau ddosbarth i brofi effeithrwydd y modd yma o gyflwyno, wedi'i seilio ar y gweithdai y mae Clera wedi rhedeg dros y blynyddoedd. Byddwn yn cynnal llawer o weithdai dros Gymru yn ystod y flwyddyn i roi'r cyfle i delynorion ddysgu'r grefft. |
Progress to date Robin has recorded training videos for the www.telynor.cymru website We have already run two classes to test our method, based on the workshops that Clera has run over the years. We shall conduct many workshops across Wales during the year to give harpists the opportunity to learn the craft. |
|
Byddwch yn rhan ohonno Os ydych yn delynor(es) ac am ymuno yn y prosiect. e-bostiwch: robin@teires.com neu: telynorcymru@sesiwn.com. Os nad ydych yn delynor(es), pasiwch y wybodaeth ymlaen at unrhyw gyfeillion sy'n delynorion os gwelwcvh yn dda phasiwch ein cyfeiriadau e-bost ymlaen iddyn nhw. |
Be part of it If you are a harpist and would like to join our classes, please e-mail robin@teires.com or telynorcymru@sesiwn.com. If you're not a harpist, please pass on the information to any friends who are harpists and give them our e-mails. |
|
Cliciwch yma i lawrlwytho gwahoddiad Robin i ymuno â'r cynllun a gwybodaeth pellach am y dosbarthiadau. | Click here to download Robin's invitation to join the project and for further information on the classes. |
Cliciwch am ddigwyddiadau Cliciwch am gerddoriaeth |
|
Cliciwch yma i ymaelodi â Clera Cliciwch yma i wybod am Clera heddiw |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |